Croeso i'r Gweiadur!
...y lle ar y we i wybod am y Gymraeg...”
Fersiwn
beta am ddim!
Cofrestrwch
yma
Gweiadur - geiriadur Cymraeg-Saesneg / Saesneg-Cymraeg ar-lein yn cynnwys diffiniadau ac ynganiadau yn rhan o gasgliad o adnoddau aml-gyfrwng ar gyfer defnyddwyr y Gymraeg o bob oedran a gallu.
Gweiadur Pawb - geiriadur craidd y prosiect. Mae'n seiliedig ar dros 30 mlynedd o waith geiriadurol ac yn cynnwys:
- 400,000 o eiriau Cymraeg (yn cynnwys ffurfiau treigledig a berfol)
- 38,000 o ddiffiniadau ac ymadroddion Cymraeg
- berfau wedi'u rhedeg ym mhob amser
- ansoddeiriau wedi'u cymharu
- arddodiaid wedi'u rhedeg
- cyngor gramadegol ar sut i ddefnyddio geiriau
- y treigladau sy'n cael eu sbarduno gan eiriau
- ynganiad sain
- geiriau Saesneg cyfatebol ar lefel ystyr
- mynegai Saesneg/Cymraeg
Wrth i'r prosiect ddatblygu, byddwn yn diweddaru'r geiriadur ac yn ychwanegu at gynnwys Gweiadur Pawb, e.e. geiriadur enwau gwledydd a lleoedd, thesawrws Cymraeg, thesawrws Saesneg ac ati.
Byddwn hefyd yn ychwanegu adnoddau arbenigol eraill at y Gweiadur, e.e. geiriaduron ar gyfer plant a dysgwyr.
Teipiwch air yn y blwch ar y chwith i ddechrau defnyddio Gweiadur Pawb!
D. Geraint Lewis
Nudd Lewis