Strwythur y Cofnodion
Cofnod yn y Geiriadur
Mae cofnod geiriadurol yn gallu cynnwys yr elfennau canlynol. Mae clicio'r uchelseinydd yn chwarae recordiad o'r sain yn cael ei ynganu. Mae clicio'r [+] ar y bar llwyd yn datgelu rhagolwg o gofnod bôn y prifair.
Cofnodion Geiriadurol Arbennig
Enwau Gwledydd
Mae cofnod enw gwlad yn dangos y ffurf ansoddeiriol ac enwau'r brodorion yn ogystal â'r cyfieithiad Saesneg. Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am y wlad drwy agor y map neu'r gwyddoniadur yn y Porth Geiriaduron.
Enwau Pobl
Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am yr enw drwy agor y bywgraffiadur yn y Porth Geiriaduron.
Cofnod yn y Thesawrws
Mae modd gweld cofnod o'r thesawrws mewn dau fodd gwahanol - naill ai fel rhestr o eiriau yn nhrefn yr wyddor, neu fel cwmwl sy'n dangos tebygrwydd y geiriau o ran ystyr at y prif air.
Mae clicio'r botwm "Cwmwl Tebygrwydd", sydd ar ben uchaf ochr dde'r dudalen ar gyfrifiadur, neu yn rhan o'r ddewislen ar ddyfais symudol, yn datgelu a chuddio'r cwmwl. Mae geiriau mwy o faint yn fwy tebyg eu hystyr i'r prif air na geiriau llai o faint.
Cofnod yn y Berfiadur
Tra bod cofnod geiriadurol eisoes yn dangos ffurfiau cryno'r berfau:
Mae'r cofnod o'r Berfiadur hefyd yn dangos ffurfiau cwmpasog cyfatebol y ffurfiau cryno a chyfieithiad Saesneg yn dangos un o'r cyfystyron Saesneg ar waith. Mae'r Berfiadur hefyd yn rhestru ffurfiau cwmpasog Amserau hynny y ferf lle nad oes ffurfiau cryno i'w cael.