Telerau ac Amodau Defnydd

Darllenwch y telerau a'r amodau hyn yn ofalus os gwelwch yn dda oherwydd ni ddylech ddefnyddio’r wefan hon heb dderbyn y telerau hyn, ein Polisi Preifatrwydd a’n Polisi Briwsion.

Caniateir chwilio, gwylio, adalw, arddangos neu argraffu copïau o rannau o’r wefan at eich defnydd personol, anfasnachol, yn unig. Gochelwch rhag annog eraill i ddefnyddio’r wefan neu unrhyw ran o’i chynnwys at ddibenion masnachol neu mewn unrhyw ffordd a allai arwain at ddifenwad Gweiadur neu Gwerin.

Ni chaniateir newid, atgynhyrchu, creu aml gopïau print, adargraffu, benthyca, rhannu, dosbarthu, trosglwyddo, darlledu, nac arddangos yn gyhoeddus y wefan hon nac unrhyw ran o’i chynnwys.

Peidier â defnyddio dulliau cloddio data, robotiaid, crafu, peirianneg gildroadol nac unrhyw ddulliau tebyg o gasglu neu echdynnu data o unrhyw ran o’r wefan. Ni chaniateir arbed na chadw'r wefan hon nac unrhyw ran ohoni mewn ffurf electronig nac mewn ffurf strwythuredig arall.

Sicrhewch bod yr wybodaeth ar y wefan hon yn addas ar gyfer eich anghenion penodol chi. Yr ydym yn gwneud ein gorau glas i gadw’r wefan yn gywir ac yn gyflawn ond nid ydym yn atebol am unrhyw anghywirdeb neu wall. Eich cyfrifoldeb chi yw’r defnydd a wnewch o unrhyw wybodaeth a geir yma.

Sicrhewch bod unrhyw wefan y cysylltwch â hi o’r wefan hon yn addas ac yn briodol i chi. Nid ydym yn cymeradwyo y sefydliadau hyn a does gennym ddim rheolaeth dros eu cynnwys na’u dulliau o weithredu.

Yr ydym yn ceisio o fewn rheswm diogelu’r wefan a'i chynnwys rhag firysau a meddalwedd maleisus neu ddinistriol arall, ond ni allwn warantu diogelwch y wefan ac nid ydym yn derbyn atebolrwydd na chyfrifoldeb am ddiogelwch y wefan. Dylech sicrhau bod gennych systemau diogelwch addas yn eu lle cyn defnyddio’r wefan hon.

Caniateir creu dolenni i dudalennau'r wefan hon, ar yr amod fod hynny yn cael ei wneud mewn ffordd gyfrifol sy’n golygu:

  • Os gofynnwn ichi ddileu neu newid dolen i’r wefan hon eich bod yn gwneud hynny cyn gynted â phosibl.
  • Nad ydych yn creu’r argraff bod cysylltiad rhyngom sy’n cymeradwyo neu’n cefnogi
  • Rhaid sicrhau defnydd teg a rhesymol o unrhyw ddolen a gofalu, na fydd ei defnydd yn amharu ar ein henw da na chymryd unrhyw fantais ohono (yn fasnachol neu mewn unrhyw ffordd arall.)
  • Ni chaniateir, heb ein caniatâd, fwy na 10 dolen i’r wefan hon ar unrhyw un o’ch tudalennau gwe
  • Rhaid sicrhau nad yw’r wefan lle osodir y ddolen yn cynnwys deunydd gwrthun, anllad, na difenwol nac yn tarfu ar unrhyw hawlfraint, nod masnach neu hawl gyffelyb.
  • A bod rhywun yn clicio ar eich dolen i’r wefan hon, rhaid iddo agor y wefan hon mewn tudalen newydd, nid o fewn fframyn ar eich gwefan chi.

Ni fedrwn eich digolledi yn ganlyniad i:

  • unrhyw gamgymeriad yng nghynnwys y wefan hon;
  • unrhyw ran o’r wefan heb fod ar gael;
  • eich defnydd o wefan unrhyw sefydliad y ceir mynediad iddo o’r wefan hon (gan gynnwys unrhyw beth a brynir gan y sefydliad hwnnw neu unrhyw ddefnydd a wneir ganddynt o’r data personol a drosglwyddwyd gennych iddynt);
  • lawr lwytho unrhyw ddeunydd o’r wefan hon; ac
  • unrhyw gynnwys a ychwanegir at y wefan hon gan bobl yn defnyddio ein gwasanaethau rhyngweithiol.

Gochelwch rhag camddefnyddio, hacio neu wneud unrhyw beth i darfu ar y wefan hon neu ei niweidio, a gochelwch rhag defnyddio’r wefan mewn ffordd a fydd yn amharu ar eraill.

Pan fyddwch yn cofrestru am unrhyw wasanaeth ar y wefan hon rhaid cyflwyno manylion cofrestru cywir a’u diweddaru i’w cadw’n gywir.

Rhaid ichi gadw eich cyfrinair a'ch manylion adnabod yn ddiogel a sicrhau nad oes unrhyw un arall yn defnyddio eich manylion cofrestru neu eich cyfrif. Chi sy’n gyfrifol am unrhyw ddefnydd a wneir o’ch cyfrif ac am unrhyw weithrediadau yn deillio o ddefnydd o’ch cyfrif.. Yr ydych yn cytuno rhoi gwybod inni yn syth am unrhyw gamddefnydd o’ch manylion cofrestru neu'ch cyfrif. Ni fyddwn yn gyfrifol nac yn atebol am unrhyw golledion yn deillio o gamddefnydd o'ch cyfrif.

O dderbyn achwyniad am eich defnydd o’r wefan, yr ydych yn cytuno ein bod ni yn rheoli’r anghydfod a byddwch yn cefnogi a chydweithio’n llawn â ni yn hyn o beth.

Mae'r farn, datganiadau a’r sylwadau a fynegir mewn unrhyw ardal ryngweithiol o’r safwe yn eiddo’r cyfrannwr unigol neu’r hysbysebwyr, nid eiddo Gweiadur neu Gwerin.

O bostio eich sylwadau neu ddefnyddiau yn ein hardaloedd rhyngweithiol yr ydych yn caniatáu inni drwydded anghyfyngedig, barhaol, ddiwrthdro, ddi-freindal, fyd-eang i ddefnyddio, atgynhyrchu, addasu, gyfieithu, gyhoeddi, ddarparu, ddosbarthu, gynnwys mewn gweithiau eraill, is-drwyddedu, ac arddangos unrhyw gynnwys a gyflwynir gennych mewn unrhyw ffurf  wybyddus neu sydd eto i’w datblygu. Drwy gyflwyno deunydd yr ydych yn cydnabod eich bod yn ildio unrhyw hawl foesol sydd gennych ynddo.

Cyfyngir eich defnydd o’r ardaloedd rhyngweithiol i ychwanegu cynnwys sy’n gymwys ac yn  addas, ni chaniateir y canlynol:

  • hysbysebu, hyrwyddo neu cynnig gwerthu adnoddau neu wasanaethau hyd yn oed ar ran sefydliad elusennol neu ddielw;
  • postio neu drosglwyddo deunydd nas archebwyd, post sothach ("junk") neu "spam" na chynlluniau pyramid;
  • cywain neu gasglu cyfeiriadau e-bost neu wybodaeth gysylltiol arall neu ddefnyddio sgriptiau cynaeafu awtomatig i gasglu gwybodaeth o’r wefan neu ryngweithio â’r wefan mewn unrhyw ffordd arall;
  • datgelu unrhyw wybodaeth gyfrinachol neu sensitif;
  • datgelu unrhyw wybodaeth bersonol am bobl eraill (e.e. cyfeiriad e-bost, rhif ffôn, cyfeiriad post, rhifau cerdyn credit, rhifau nawdd cymdeithasol);
  • postio neu gysylltu â chynnwys a ystyrir gennym yn anghyfreithlon, difrïol, anllad, bygythiol, sarhaus, anweddus, pornograffig, dilornus, yn dueddol o ennyn atgasedd hiliol, yn gwahaniaethu yn anghyfreithiol, ymfflamychol, cableddus, niweidiol, neu’n wrthnysig (gan gynnwys ond heb gael ei gyfyngu i destun, graffeg, rhaglenni, fideo neu sain);
  • postio deunydd nad oes gennych ganiatâd i’w ddefnyddio, yn enwedig deunydd yn cynnwys hawliau eiddo deallusol trydydd person;
  • llwytho i fyny, postio, rhannu neu wneud ar gael mewn unrhyw ffordd arall unrhyw ddeunydd yn cynnwys firysau meddalwedd, codau cyfrifiadurol neu unrhyw gydrannau eraill sy’n gallu gwneud niwed i unrhyw ddefnyddiwr neu gyfarpar;
  • ymhlygu neu awgrymu bod unrhyw ddatganiad o’ch eiddo yn cael ei gymeradwyo gennym ni;
  • dileu unrhyw gyfeiriad at awduron, hysbysiadau cyfreithiol, neu ddynodiad neu labeli eiddo mewn unrhyw ddeunydd a bostir;
  • anwireddu tarddiad cynnwys a bostir;
  • cynnig deunydd gyda’r bwriad o gyflawni neu hybu gweithred anghyfreithlon;
  • defnyddio iaith neu enw defnyddiwr amhriodol (e.e. aflednais neu ddifrïol);
  • dynwared neu bersonadu rhywun neu broffesu cynrychioli unrhyw gorff;
  • defnyddio neu geisio defnyddio cyfrif, gwasanaeth neu system rhywun arall heb ganiatâd, cofrestru ar gyfer mwy nag un cyfrif neu gofrestru ar ran unigolyn, grŵp neu endid arall;
  • ailfformatio neu fframio unrhyw ran o’r tudalennau gwe sy’n rhan o’r wefan hon.

Gallwn wrthod caniatáu enw defnyddiwr sy’n personadu rhywun arall, sy’n cael neu a all gael ei warchod gan nod masnach neu hawliau deallusol eraill, sy’n anweddus, difrïol, sarhaus neu yn anaddas yn ein barn ni.

Nid ydym yn ymrwymo i gadw neu sicrhau argaeledd unrhyw ddeunydd yr ydych chi neu unrhyw un arall wedi cyfrannu at y wefan hon am unrhyw gyfnod penodol os o gwbl. Mae gennym yr hawl i ddileu, archifo, dynnu yn ôl, newid neu wneud sylw ar unrhyw ddeunydd, a chau neu ddirwyn unrhyw destun trafod i ben ar unrhyw adeg ac yn ddirybudd.

Yr ydym yn cadw’r hawl i newid y wefan a’r lefelau o wasanaeth a gynigir ac i derfynu mynediad ar unrhyw amser yn ddirybudd.

Gallwn newid ein telerau ar unrhyw adeg, ond dim ond pan fyddwn o'r farn fod y newidiadau yn anorfod neu’n rhesymol. Gwiriwch y dudalen dermau ac amodau hon yn rheolaidd am unrhyw ddatganiadau. Fel arfer bydd y newidiadau yn dod i rym ar unwaith, ond os ydym yn ystyried y bydd y newidiadau yn bwysig i chi, fe wnawn eich rhybuddio ymlaen llaw er mwyn ichi benderfynu a ydych chi yn dymuno parhau i ddefnyddio’r wefan.

Yr ydych yn cytuno bod yr hysbysiad cyfreithiol hwn yn cael ei lywodraethu gan gyfreithiau a llysoedd Lloegr a Chymru.