Cyhoeddi Geiriadur Cymraeg Gomer

Geiriadur Cymraeg Gomer

'Arwydd bod iaith yn fyw ac yn iach ac yn dal i ddatblygu yw fod galw am eiriaduron newydd o hyd; y mae'r campwaith hwn yn brawf o hynny - geiriadur clir a chyfoes sy'n gyforiog o wybodaeth diddorol, ac o ganllawiau am y defnydd o eiriau yn ogystal â'u hystyron.'
- Dafydd Iwan

'Yn ddi-os, dyma adnodd a fydd yn hynod o werthfawr i fyfyrwyr ystod eang o bynciau. Rwy'n ei groesawu'n fawr iawn.'
- Ioan Matthews, Prif Weithredwr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

'Geiriadur anhepgor i bawb sy'n defnyddio'r Gymraeg heddiw. Carreg filltir ofnadwy o bwysig i'n hiaith.'
- Rhodri Morgan

'Testun sy'n rhoi ar unwaith stori wych mewn rhestrau iaith.'
- Mererid Hopwood

Bu’r geiriadur arbennig hwn yn y broses o gael ei greu am yn agos i 20 mlynedd pan y gofynnodd Mr John Lewis i D. Geraint Lewis weithio ar greu geiriadur Cymraeg newydd. Ers hynny, mae’r broses o gasglu geiriau ynghyd wedi bod yn un hir a hynod ddiddorol. Y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru a CBAC wedi helpu i ariannu’r cynllun ac wedi bod yn rhan o’r broses gasglu a mireinio geiriau ac ystyron. Defnyddiwyd nifer helaeth o arbenigwyr pwnc a thimau o ddarllenwyr allanol a phrawf-ddarllenwyr i gael y geiriadur i fwcwl. A dyma ni!

Y mae Geiriadur Cymraeg Gomer yn cynnwys dros 43,000 o ddiffiniadau a miloedd ar filoedd o eiriau. Dyma’r gyfrol fwyaf erioed i Wasg Gomer ei llunio yn ei hanes hir o dros 124 o flynyddoedd.

Dywedodd Jonathan Lewis, Rheolwr Gyfarwyddwr Gwasg Gomer: “Rydym yn hynod falch o gyhoeddi’r geiriadur newydd cyfoes hwn, sydd dros 1,300 o dudalennau. Cyflawnodd Geraint, a’i fab, Nudd, waith arwrol… Bydd hon yn gyfrol werthfawr i bawb sy’n defnyddio neu’n dysgu’r Gymraeg am flynyddoedd lawer ac yn garreg filltir anhepgor i’r iaith”.

Lansiwyd Geiriadur Cymraeg Gomer gan D. Geraint Lewis a Nudd Lewis ar 24/03/16 yn argraffdy Gwasg Gomer, Llandysul.