Gweiadur yn helpu gwella Microsoft Translator ar gyfer y Gymraeg

Yn ddiweddar, fe fu tîm y Gweiadur yn cynorthwyo Google drwy ddarparu geirfa a chyd-destun er mwyn caniatáu iddyn nhw wella canlyniadau Google Translate. Er mwyn cadw'r ddysgl yn wastad, mae'r tîm hefyd wedi bod yn cynorthwyo Cynulliad Cymru wrth iddyn nhw weithio gyda Microsoft i wella canlyniadau Microsoft Translator!

 

Unwaith eto, roedd y Cynulliad am bwysleisio na fydd cyfieithu peirianyddol yn cymryd lle pobl broffesiynol, ond ei fod yn rhan allweddol o ddarparu gwasanaeth dwyieithog ac y byddai o gymorth i'r cyfieithwyr hynny.

 

Tybed pa mor debyg fydd canlyniadau’r ddwy system ac a fydd un yn profi ei hun yn fwy dibynadwy na'r llall?

 

Rhaid aros i weld beth fydd ansawdd y cyfieithiadau a gynigir wrth ddygymod ag anghenion bob-dydd go iawn eu defnyddwyr, ac a fydd codi proffil cyfieithu peirianyddol yn rhoi mwy o hyder i bobl gopïo a gludo cyfieithiadau heb eu gwirio i'w testunau cyhoeddus. Byddai'n drueni mawr petai'r holl fwrlwm a sylw diweddar ar wella ansawdd cyfieithu peirianyddol Cymraeg yn golygu gostyngiad mewn ansawdd y Gymraeg ar ein harwyddion ac yn ein cyhoeddiadau cyhoeddus.