Croeso i’r Gweiadur!

Gweiadur - prosiect i greu casgliad o adnoddau aml-gyfrwng ar gyfer defnyddwyr y Gymraeg o bob oedran.

Gweiadur Pawb - craidd y prosiect. Mae’n seiliedig ar dros 30 mlynedd o waith geiriadurol ac yn cynnwys:

  • 400,000 o eiriau Cymraeg (yn cynnwys ffurfiau treigledig a berfol)
  • 38,000 o ddiffiniadau ac ymadroddion Cymraeg
  • berfau wedi’u rhedeg ym mhob amser
  • ansoddeiriau wedi’u cymharu
  • arddodiaid wedi’u rhedeg
  • cyngor gramadegol ar sut i ddefnyddio geiriau
  • y treigladau sy’n cael eu sbarduno gan eiriau
  • ynganiad sain
  • geiriau Saesneg cyfatebol ar lefel ystyr
  • mynegai Saesneg/Cymraeg

Wrth i’r prosiect ddatblygu, byddwn yn diweddaru ac yn ychwanegu at gynnwys Gweiadur Pawb, e.e. enwau gwledydd a lleoedd, thesawrws Cymraeg, thesawrws Saesneg ac ati.

Byddwn hefyd yn ychwanegu adnoddau arbenigol eraill at y Gweiadur, e.e. ar gyfer plant a dysgwyr.