did1

(hwn) enw gwrywaidd (didau)
yn Saesneg yw:

binary digit

,

bit[4]

Treigladau

Meddal:ddid
Trwynol:nid
Llaes:(dim treiglad)

Defnydd

y did hwn
fy nid i
dy ddid di
ei ddid ef/o
ei did hi
ein did ni
eich did chi
eu did nhw/hwy
yr un did
y ddau ddid cyflym*
y tri did pell*
y pedwar did tawel*
y pum did bach*
y chwe did da*
y saith did glân*
yr wyth did llawn*
y naw did mawr*
y deg did rhyfedd*

* Dewiswyd yr ansoddeiriau hyn ar sail eu llythyren gyntaf er mwyn dangos eu treigladau, felly ni fyddant yn gwneud synnwyr o ran ystyr ar ôl pob enw!

yn Saesneg yw:

not

Ymadroddion (92)
(nid) yn unlle:nunlle
(nid) yn unman:nunman
a deithio mewn cariad nid mwy mil filltir nag un
bola llawn sy’n hollti nid bola gwag
bost a chelwydd nid deupeth ydynt
caru’r nyth ac nid yr aderyn
da gan y gath bysgod, ond nid da ganddi wlychu ei thraed
daioni yw gwneud nid dweud
dylid pwyso geiriau nid eu cyfrif
Eryr gwyllt ar war gelltydd, nid ymgêl pan ddêl ei ddydd
Fesul tŷ nid fesul ton, y daw’r môr dros dir Meirion
gormod o ddim nid yw dda
Gwŷr o athrylith, ond gyda bodau o'r fath, nid yw mesur eu llathen hwy yr un hyd â llath
Hawdd yw dywedyd 'Dacw'r Wyddfa' - Nid eir drosti ond yn ara'
llawer o bregethwyr nid ydynt yn clywed eu hunain
Mae cariad a thrugaredd yn hanfodion hebddynt nid yw dynolryw yn mynd i oroesi
mae pawb yn aros yr amser a’r amser nid erys neb
mae un llinyn yn mygu ond nid yw'n llosgi
Marwolaeth nid yw'n marw, hyn sydd wae
nid â nerth braich ac ysgwydd y mae canu crwth
nid ag edau wlân mae rhwymo tarw gwyllt
nid amgen
nid ar chwarae bach
nid ar redeg mae aredig
nid ar un to yn unig y mae'n bwrw glaw
nid athro ni ddysg ei hunan
nid aur popeth melyn
nid call adrodd y cyfan
Nid Credo ond y pethau bach bob dydd yw sylfaen bywyd a phinaclau ffydd
Nid croesi cae yw byw, Cywir: croesi traeth ydyw.
nid cyfraith heb gyfiawnder
nid cyn pryd
nid da lle gellir gwell
nid diogi ymdrechu a methu
nid edrychir ar ddannedd march rhodd
nid ei goler sy'n gwneud gweinidog
Nid eiddil pob eiddilwch, tra dyn, nid llychyn pob llwch
Nid gorau pwyll pwyllgorau
nid gwaith sy'n lladd ond gofid
Nid hawdd adnabod dyn na'i alw'n ffrind neu elyn
nid hawdd twyllo hen frithyllod
nid hwyrach
nid moroedd tawel sy'n gwneud morwr da
nid oes dim dwywaith nad (rhywbeth)
Sylwch: mae angen yr ail negydd ‘nad’ sy’n ei ddilyn.
Nid oes dim newydd dan yr haul
Nid oes dim yn gwneuthur pobl mor anghyfiawn â'u cyfiawnderau eu hunain
nid oes disgwyl gan ful ond cic
Nid oes gan Dduw grefydd
nid oes gan un pren wreiddiau dyfnach na rhagfarn
nid oes gardd heb ei chwyn
Nid oes i ni yma ddinas barhaus
nid oes neb yn gwybod llai na'r un sy'n gwybod y cwbl
Nid oes paradwys fel paradwys ffŵl
Nid rhyddid rhyddid nad yw'n derbyn camgymeriadau
nid twyll twyllo twyllwr
nid wrth ei big y mae prynu cyffylog
nid wrth ei glawr y mae adnabod llyfr
Nid wyf ond ysbaid o wêr, nid wyf ond ennyd ofer
nid y ci sy'n cyfarth sy'n cnoi
nid y fuwch sy'n brefu uchaf sy'n rhoi'r mwyaf o laeth
nid y gwybod sy'n anodd ond y gwneud
nid ydym ond canhwyllau'n llosgi yn y gwynt
Nid ydyw Duw mor greulon ag y dywaid hen ddynion
nid yn y bore y mae canmol tywydd teg
nid yw aderyn yn canu er mwyn dweud dim, ond oherwydd fod ganddo gân
nid yw aur yn rhydu
nid yw bai yn dod i ben, fe ddeil nes trof y ddalen
nid yw brân yn wynnach o’i golchi
Nid yw casineb yn gallu trechu casineb, dim ond cariad sy'n gallu gwneud hyn, dyna ddedf oesol
nid yw dau ben nodwydd yn finiog
nid yw distawrwydd yn cael ei gofnodi
Nid yw Duw yn dda, neu fe ddylai fod yn well
nid yw eiddigedd yn heneiddio
nid yw gair ond gwynt.
nid yw pawb yn gwirioni'r un fath
nid yw trachwant byth yn cael digon
nid yw un dyn yn gwybod dolur y llall
nid yw yn fy (dy, ei, a.y.b.) nghroen
nid yw'r hoff o lyfr yn fyr o gyfaill
nid yw'r llestr gorau un yn gallu cynhyrchu bwyd
nid yw'r un sy'n cael ei gario yn deall pa mor bell yw'r dref
pawb yn aros yr amser, a'r amser nid erys neb
pridd y wadd sy'n achosi dyn i faglu, nid mynyddoedd
Problem pobl eraill yw eu barn amdanat ti, nid dy broblem di
un saeth a dyr yn rhwydd nid felly deg saeth ynghlwm
y defnyn sy'n dryllio'r garreg nid o gryfder ond o fynych syrthio
Allanol

Porth Geiriaduron

Dyma lyfrgell o eiriaduron ac adnoddau ar-lein eraill lle y gallwch chwilio ymhellach am nid*:

Geiriaduron Arbenigol
Geirfaoedd
Terminoleg
Gwyddoniadur
Brawddegau Enghreifftiol
Brawddegau yn cynnwys:

*Agorir gwefannau allanol mewn ffenestr newydd.