Newydd! - Enwau Lleoedd

Mae'r Gweiadur wedi gweithio gyda swyddfa Comisiynydd y Gymraeg i greu fersiwn chwiliadwy ar-lein o Restr Enwau Lleoedd Safonol Cymru.

Mae'r adnodd ar gael yma: https://www.gweiadur.com/enwau-lleoedd

Mae'r rhestr yn cynnwys bron i 3.5 mil o enwau lleoedd safonol Cymraeg a Saesneg yn ogystal â math y lleoliad, enw'r awdurdod lleol, y cyfeirnod grid a dolen at y lleoliad map ar wefan yr Arolwg Ordnans.

Bu'r rhestr ar gael drwy wefan Comisiynydd y Gymraeg tan i honno ddioddef ymosodiad seibr ym mis Rhagfyr 2020. Ers hynny, mae'r data wedi cael ei letya dros dro ar ffurf taenlen ar wefan Llywodraeth Cymru, ynghyd â'r ddogfen gysylltiedig, "Canllawiau Safoni Enwau Lleoedd Cymru".

Ond nawr, mae'r wybodaeth ar gael ar ffurf chwiliadwy unwaith eto fel rhan o'r Gweiadur, ynghyd â'r gallu i chwilio gan ddefnyddio enwau rhannol a ffurfiau treigledig, camsillafiadau a ffurfiau ansafonol tebyg. Mae'r adnodd hefyd yn cynnig mynediad at adnoddau allanol - dangos y lleoliad yn OpenStreetMap, neu ym Mapiau Degwm Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yn ogystal â neidio at gofnod Wicipedia.

Gyda diolch i Gomisiynydd y Gymraeg am ganiatáu defnyddio'r data.