Diweddariad 2021

Beth sy’n newydd yn y Gweiadur?

Erbyn hyn mae’r Gweiadur yn cynnwys tua 50,000 o ddiffiniadau ac ymadroddion, ac yn medru canfod 500,000 o eiriau Cymraeg yn cynnwys ffurfiau treigledig, berfol, ansoddeiriol, arddodiadol a chamsillafiadau cyffredin. Mae hefyd yn medru awgrymu sillafiadau tebyg, ac yn cynnig Porth i ystod o adnoddau ar-lein eraill lle gellir chwilio am fwy o wybodaeth, neu am eiriau llai cyfarwydd.


Ychwanegiadau i gynnwys y Geiriadur:

  • Diweddariadau a chywiriadau i’r cofnodion;
  • Enwau pobl a gwledydd wedi’u hychwanegu;
  • Labeli maes ar gyfer termau technegol a labeli cywair ar gyfer cyd-destun defnydd; 

Thesawrws:

  • Thesawrws Cymraeg-Cymraeg newydd;
  • Nifer fawr o ychwanegiadau i’r cyfystyron Cymraeg-Saesneg a Saesneg-Cymraeg;
  • Y cyfan wedi ei dynnu ynghyd i greu adnodd ar wahân i’r Geiriadur; 
Yn y Thesawrws, mae modd dangos y cofnod ar ffurf rhestr yn nhrefn y wyddor, neu fel cwmwl tebygrwydd – sy’n dangos pa mor agor o ran ystyr y mae’r dewisiadau at y prif air.

Berfiadur cynhwysfawr:

  • Ffurfiau cryno a chwmpasog tua 4300 o ferfau;
  • Ystod llawn o Amserau’r ferf wedi’u mynegi;
  • Enghreifftiau o gyfieithiadau Saesneg ar gyfer pob berf; 
Yn ogystal â dangos ffurfiau cryno pob berf o fewn y cofnodion geiriadurol, mae adnodd newydd wedi cael ei ychwanegu – y Berfiadur – sy’n ymhelaethu ymhellach am ffurfiau a mynegiant pob berf. -

Modd Dysgu

  • Penawdau wedi’i lliwio yn ôl eu rhan ymadrodd, er mwyn cynorthwyo gyda dysgu a defnyddio geiriau mewn brawddeg – yn enwedig gyda chenedl enwau;
  • Ffurfiau treigledig wedi’u dangos yn llawn, gan gynnwys eithriadau i’r patrwm arferol;
  • Defnydd enwau yng nghyd-destun rhagenwau personol, a chyfrif hyd at ddeg wedi eu rhestru – er mwyn dangos y treigladau a’r rheolau treiglo ar waith; 
Mae’r Modd Dysgu yn cynnig gwybodaeth wahanol yn dibynnu ar nodweddion y gair. Gellir ei gynnau a’i ddiffodd yn ôl yr angen, er enghraifft er mwyn profi eich hun.

Gobeithio y byddwch chi'n cael budd o ddefnyddio'r Gweiadur ar ei newydd wedd, ac wrth gwrs, os gwelwch chi unrhyw beth sydd angen ei gywiro, neu os oes gennych syniad am ychwanegiad i'r Gweiadur, byddem yn falch iawn clywed gennych.