D. Geraint Lewis yn cael ei urddo'n Gymrawd o Brifysgol Aberystwyth

Cafodd D. Geraint Lewis ei gyflwyno gan Dr Mari Elin Jones, Cyfarwyddwr Canolfan Gwasanaethau’r Gymraeg yn ystod y gyntaf o seremoniau graddio 2014 a gafodd ei chynnal ar fore Llun 14 Gorffennaf. Dywedodd Dr Jones:

" 'Nid pawb sy’n gwirioni’r un fath', dyna eiriau D Geraint Lewis wrthyf pan gysylltais ag ef i drafod y seremoni hon. A diolch bod yr ysgolhaig hwn wedi gwirioni gymaint ar eiriau, ymadroddion a gramadeg y Gymraeg gan roi inni gyfoeth o adnoddau o’r [Fy] Llyfr Geiriau Cyntaf i’r Llyfr Berfau a’r Treigladur, heb sôn am eglurhad o’r [Y] Geiriau Lletchwith! Mae’r cyfrolau hyn, ymhlith cyhoeddiadau eraill ganddo, yn gyfeirlyfrau gwerthfawr ar ddesg pob myfyriwr, athro, cyfieithydd, academydd a gweinyddwr sy’n parchu’r iaith ysgrifenedig. Mae’n fraint cael ei groesawu ef a’i deulu i’r seremoni hon heddiw.

"Roedd hwnnw’n ddigwyddiad arwyddocaol a newidiodd iaith ei blentyndod ond, wrth gwrs, nid oedd Geraint a’i deulu yn eithriadau yn ystod y cyfnod hwnnw pan gollodd cenhedlaeth o blant eu mamiaith. Yr hyn oedd yn unigryw am Geraint oedd bod geiriau ac iaith yn bwysig iddo, a phwy a wŷr na fu’r newid ieithyddol cynnar hwn yn ysgogiad iddo, maes  o law, i fynd i’r afael â hynodrwydd y Gymraeg.

"Yng Nghapel Tabernacl yr ysbrydolwyd Geraint a’i gyfoedion i afael yn y Gymraeg yr oeddynt mewn perygl o’i cholli. Yr oedd cerddoriaeth a’r capel yn ddylanwadau mawr arno, ac yn parhau felly. Blodeuodd ei ddiddordeb mewn cerddoriaeth yn Ysgol Ramadeg y Bechgyn, Pontypridd, a than ddylanwad ei athro cerddoriaeth, Haydn Wyn Davies, treuliai ei wyliau ysgol ar gyrsiau cerddorol amrywiol gan ennill lle yng Ngherddorfa Ieuenctid Cymru yn canu’r Corn Ffrengig. Ymhlith ei gyhoeddiadau y mae cyfrolau cerddoriaeth a chyfrolau am gerddoriaeth, megis Awn i Fethlem, Wrth y Preseb a Clychau’r Nadolig – caneuon a charolau y mae plant o Fôn i Fynwy yn gyfarwydd â’u canu mewn cyngherddau Nadolig.

"Ond dilyn trywydd iaith a llenyddiaeth Gymraeg a wnaeth Geraint yn academaidd ac fe’i perswadiwyd i ddilyn ôl troed ei athro Cymraeg, Aneurin Jones, i Goleg Prifysgol Cymru Aberystwyth, ac i gynnig am le ar gwrs newydd arbrofol ar gyfer dysgwyr dan ofal Dr E G Millward. Yn Adran y Gymraeg, Aberystwyth, y daeth Geraint i werthfawrogi gwaith beirdd mawr Cymru ddechrau’r Ugeinfed Ganrif – T Gwynn Jones a T H Parry-Williams – ac wrth gwrs, cafodd gyfle i ddysgu wrth droed un o feirdd cyfoes a phwysicaf y cyfnod, Gwenallt. Derbyniodd swydd yn Llyfrgell Ceredigion a dyna bryd y cyfarfu â’i arwr mawr, y diweddar Alun R Edwards.

"Bu’n Gadeirydd Panel Llenyddiaeth Plant Pwyllgor Llenyddiaeth Cyngor y Celfyddydau, Cadeirydd gwahanol Bwyllgorau a phaneli llyfrau plant Cyngor Llyfrau Cymru, ac yn 1986 olynodd ei arwr, Alun Edwards, fel Ysgrifennydd Mygedol y Cyngor Llyfrau. Un uchafbwynt oedd ennill Gwobr Tir Na ‘Nog am ei waith, Geiriadur Gomer yr Ifanc, gwobr haeddiannol sy’n gydnabyddiaeth o’r cyfraniad sylweddol y mae wedi ei wneud i lythrennedd a llenyddiaeth plant.

"Mae’n cydweithio â’i fab, Nudd, sydd wedi llunio meddalwedd cyfrifiadurol sy’n dygymod am y tro cyntaf â holl ffurfdroadau’r Gymraeg er mwyn cyhoeddi’r geiriadur electronig, Y Gweiadur. Maent hefyd yn gweithio ar gyfrol sylweddol a phwysig i CBAC, Geiriadur Cymraeg Gomer, ar gyfer myfyrwyr sy’n astudio drwy gyfrwng y Gymraeg yn y Chweched Dosbarth. Bydd y gwaith hwn yn rhoi’r arfau ieithyddol i annog mwy o ddarpar fyfyrwyr i astudio drwy’r Gymraeg yn y Prifysgolion.

"Gwisg go wahanol fydd ganddo yn Llanelli!

"Mae Geraint Lewis wedi cyfrannu gymaint i’w filltir sgwâr, i’w wlad ac i’w iaith a diolch iddo am y gymwynas fawr honno. Mae’n anrhydedd cael ei gyflwyno yn Gymrawd Prifysgol Aberystwyth.

"Madam Is-Lywydd. Mae’n fraint ac yn bleser gennyf gyflwyno i chi, Mr D Geraint Lewis, yn Gymrawd Prifysgol Aberystwyth."