Gweiadur

Geiriadur Cymraeg-Saesneg / Saesneg-Cymraeg ar-lein yn cynnwys diffiniadau ac ynganiadau yn rhan o gasgliad o adnoddau aml-gyfrwng ar gyfer defnyddwyr y Gymraeg o bob oedran a gallu.

...y lle ar y we i wybod am y Gymraeg...”

Fersiwn

beta am ddim!

Cofrestrwch

yma

Y Geiriadur Cymraeg-Saesneg

Geiriadur craidd y prosiect. Mae'n seiliedig ar dros 40 mlynedd o waith geiriadurol ac yn cynnwys:

  • 500,000 o eiriau Cymraeg (yn cynnwys ffurfiau treigledig a berfol)
  • 50,000 o ddiffiniadau ac ymadroddion Cymraeg
  • berfau wedi'u rhedeg ym mhob amser
  • ansoddeiriau wedi'u cymharu
  • arddodiaid wedi'u rhedeg
  • cyngor gramadegol ar sut i ddefnyddio geiriau
  • y treigladau sy'n cael eu sbarduno gan eiriau
  • ynganiad sain
  • geiriau Saesneg cyfatebol ar lefel ystyr
  • mynegai Saesneg/Cymraeg

Wrth i'r prosiect ddatblygu, byddwn yn diweddaru'r geiriadur ac yn ychwanegu at ei gynnwys. Byddwn hefyd yn ychwanegu adnoddau arbenigol eraill at y Gweiadur.

Teipiwch air yn y blwch chwilio i ddechrau defnyddio'r Gweiadur!

D. Geraint Lewis
Nudd Lewis