Cymorth
Sut ydw i’n chwilio am air?
Teipiwch neu gopïwch air i’r blwch chwilio; pwyswch y dychwelwr (ENTER) ar eich bysellfwrdd.
Gallwch chwilio am ffurfiau treigledig, ffurfiau berfol, ffurfiau benywaidd ansoddeiriau, ffurfiau arddodiadol, ac ati. a chyfuniadau o’r rhain, e.e. (thery, felen, thanat.)
I fewnbynnu llafariad ag acen arni, teipiwch y llafariad a symbol yr acen ar wahân ac fe gânt eu cyfuno yn awtomatig, e.e. a^ => â; e/ => é; o\ => ò
Beth os nad ydw i’n hollol sicr sut i sillafu’r gair?
Wrth i chi deipio yn y blwch chwilio bydd y rhestr ganlyniadau yn diweddaru ei hun. Cliciwch ar air yn y rhestr i neidio i’w ddiffiniad.
Beth yw pwrpas y tabiau "Cymraeg" a "Saesneg"? Oes rhaid dewis iaith cyn chwilio?
Does dim rhaid dewis iaith cyn dechrau chwilio, bydd y Gweiadur yn chwilio'r ddwy iaith, ond gyda gair fel "car", er enghraifft, gallwch neidio'n syth i'r cofnod priodol drwy ddewis yr iaith yn gyntaf.
A oes modd clywed gair yn cael ei ynganu?
Cliciwch ar yr uchelseinydd i glywed ynganiad y gair.
Sut mae dangos ffurfiau berfol a ffurfiau cymharol ansoddeiriau?
Cliciwch ar y bariau llwyd (+) i ddangos rhediad berfau ac arddodiaid, ac i gymharu ansoddeiriau.
Sut mae chwilio am ymadroddion a phriod-ddulliau?
Teipiwch brif air neu ran o ymadrodd i ddod o hyd i ymadroddion.
Pa wybodaeth arall sydd yn y Gweiadur?
Cynigir cyngor gramadegol ar ddefnydd y gair o dan y pennawd "Sylwch:".
Tra bo’r diffiniad yn cynnig y cyfystyron Saesneg mwyaf arferol, mae’r botwm Cyfystyron Saesneg yn cynnwys mwy o ddewisiadau.
Oes modd defnyddio’r Gweiadur heb lygoden?
Does dim rhaid symud y cyrchwr i’r blwch cyn dechrau, bydd yn symud yno wrth i chi deipio.
Os oes gair yn y blwch eisoes, bydd y gair yn cael ei ddileu wrth i chi gychwyn teipio. (I ychwanegu at y gair, pwysych → {SAETH I'R DDE}.)
Mae pwyso DELETE yn dileu cynnwys y blwch.